Tystiolaeth Prospect a Bectu Cymru i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ar effaith COVID-19 ar y Sectorau Diwylliannol a Chreadigol yng Nghymru        

                                                         

Dydd Iau 10fed Medi 2020

 

Cyflwyniad

 

Ni yw’r undeb dros uchelgais. Mae Prospect yn cynrychioli 150,000 o aelodau ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau a phroffesiynau yn y sectorau diwylliannol, creadigol a threftadaeth, ac mae’r diwydiannau hynny’n arbennig o bwysig i’r undeb yng Nghymru.

 

Mae gennym dros 6000 o aelodau ym maes treftadaeth ledled y DU, gydag o leiaf 500 o’r rheini wedi’u lleoli yng Nghymru. Rydym yn cefnogi ein haelodau yn y sector treftadaeth drwy’r argyfwng presennol hwn a byddwn yn parhau i lobïo dros bwysigrwydd treftadaeth a diwylliant i bobl Cymru.

 

Yn 2017 fe wnaeth Bectu a Prospect uno, a ni yw’r undeb dros uchelgais creadigol. Rydyn ni’n 1 undeb gyda 2 frand. Mae Bectu yn cynrychioli dros 46,000 o bobl greadigol sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni yn y byd Teledu, Ffilm, Digidol, Theatr a Digwyddiadau Byw yn y diwydiannau cyfryngau ac adloniant.

 

Mae ein haelodau ar draws y sectorau diwylliannol, creadigol a threftadaeth yn gweithio ledled ein cymunedau yng Nghymru, mewn sefydliadau bach a mawr gan gyfrannu at iechyd, lles a chyfoeth y genedl. Ac yntau’n ddiwydiant byd-eang, mae’r sector creadigol wedi bod yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at y ffordd mae ein gwlad yn cael ei gweld ym mhedwar ban byd. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar sectorau eraill fel teithio, twristiaeth a lletygarwch.

 

Tarfu ar y sector

 

Beth fu effaith uniongyrchol Covid-19 ar y sector?

 

Yn gyntaf, rhaid cydnabod y gwaith ychwanegol a wnaed gan Lywodraeth Cymru, ac yn enwedig gwaith diflino yr Arglwydd Elis-Thomas MS a’r holl adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wrth ddelio â’r argyfwng Covid. Mae eu llwyth gwaith wedi bod yn sylweddol ac maent wedi gweithio ar y cyd â’r undebau llafur i geisio ymdopi â’r argyfwng hwn yn y ffordd orau bosib. Fodd bynnag, mae ein haelodau wedi sôn wrthym fod hyn wedi amlygu pa mor brin yw adnoddau’r adran (yn enwedig wrth i staff gael eu hail-neilltuo i ddyletswyddau Covid) ac er na ellir cwestiynu ymrwymiad yr unigolion dan sylw, mae’n rhaid i ni ofyn pa mor ddifrifol y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd diwylliant a threftadaeth? Os yw un o drysorau mawr Cymru am ailgodi oddi ar ei liniau ar ôl i'r argyfwng hwn ddod i ben, rhaid i’r sector cyfan gael adnoddau a chyllid priodol.

 

Bu’n rhaid i Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru gau eu drysau’n sydyn pan gyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’n rhaid cyfyngu ar fynediad i’r cyhoedd a gofyn i staff weithio gartref lle bo hynny’n bosibl.

 

Mae’r ddau sefydliad wedi dioddef gostyngiad sylweddol mewn refeniw o ymwelwyr, gyda’r Amgueddfa yn wynebu gostyngiad o £400,000 y mis ar hyn o bryd. Dros y blynyddoedd diwethaf, roedd yr Amgueddfa a’r Llyfrgell yn gyson wedi cynyddu eu refeniw o gyllid masnachol allanol a chawsant eu canmol am wneud hynny. Rhoddwyd amryw o brosiectau ar waith ar gyfer cynyddu refeniw ac mae’r staff wedi cyfrannu’n gadarnhaol at yr ymdrechion hyn lle bynnag y bo modd. Roedd hyn mewn ymateb uniongyrchol i ostyngiadau sylweddol a pharhaus mewn cymorth grant, ond er gwaethaf y gostyngiadau hyn, llwyddwyd i gadw’r prif gasgliadau ar agor i’r cyhoedd am ddim. Mae’r argyfwng presennol hwn wedi cwtogi’n sylweddol ar y ffrydiau refeniw hyn ac ar hyn o bryd mae’n achosi twll ariannol enfawr yn yr holl waith cynllunio ariannol a’r paratoadau a wnaed gan y sefydliadau treftadaeth yng Nghymru.

 

Hoffai Prospect dynnu sylw at ba mor effeithiol roedd yr Amgueddfa a’r Llyfrgell wrth gyflwyno’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) gan roi nifer fawr o staff ar ffyrlo yn gyflym ac yn effeithiol ac mewn cydweithrediad â Prospect a’r undebau llafur cydnabyddedig eraill. Roedd y ddau sefydliad wedi cyfrannu at gyflogau gweithwyr ar ffyrlo fel eu bod yn derbyn 100% o’u cyflog. Bydd y camau cyflym a gymerwyd yn lliniaru rhywfaint ar yr effeithiau negyddol a wynebwyd a gobeithio y bydd hynny’n arbed swyddi. Fodd bynnag, mae’r ddau sefydliad wedi dioddef gostyngiadau sylweddol mewn cymorth grant yn ddiweddar: £440,000 i’r Amgueddfa a £200,000 i’r Llyfrgell. Ar ben hynny, mae’r ddau sefydliad wedi wynebu costau ychwanegol nas cynlluniwyd amdanynt wrth ddarparu offer i bobl weithio gartref ac o ran paratoi safleoedd ar gyfer agor: £75,000 i’r Llyfrgell, a chyfanswm o £250,000 i gyd ar gyfer wyth safle’r Amgueddfa.

 

Mae’r costau annisgwyl hyn wedi gwaethygu’r problemau ariannol y mae’r ddau sefydliad yn dal i’w hwynebu.

 

Mae’r pandemig wedi taro’r sectorau treftadaeth, diwylliannol a chreadigol yn galetach nag eraill. Yn yr un modd ag amgueddfeydd a llyfrgelloedd, bu’n rhaid i theatrau, lleoliadau a sefydliadau celfyddydol gau eu drysau dros nos yng Nghymru yn dilyn y cyngor a gyhoeddwyd i atal lledaeniad COVID-19. Golygodd hyn fod lleoliadau a gweithwyr wedi colli pob ffynhonnell o incwm yn llythrennol o fewn 48 awr. O fewn dyddiau, daeth bron pob cynhyrchiad ym maes ffilm a theledu i ben (heblaw am y newyddion), a dim ond yn ddiweddar mae’r diwydiant yn dechrau gweld cynyrchiadau’n ailgychwyn yn raddol. 

 

Mae’r sector creadigol yn unigryw gan fod nifer sylweddol o’n haelodau’n weithwyr llawrydd, yn weithwyr achlysurol ac yn ficrofusnesau. Maen nhw, ochr yn ochr â’u cydweithwyr cyflogedig, yn gweithio wrth galon ein cymunedau yng Nghymru, i sefydliadau mawr a bach, sy’n golygu eu bod yn arbennig o agored i niwed ar hyn o bryd, yn ariannol yn naturiol ond hefyd o ran diogelwch swyddi yn y tymor hir.

 

 

Beth fydd effeithiau hirdymor tebygol Covid-19 ar y sector, a pha gymorth sydd ei angen i ddelio â’r rheini?

 

Er bod y cyfyngiadau ar hyn o bryd yn cael eu codi a’u hadolygu, ni ddisgwylir newid mawr yn y niferoedd sy’n cael dod ynghyd mewn mannau cyfyng am gryn amser eto. Mae hefyd yn amhosibl rhagweld pryd a ble y bydd cyfyngiadau symud lleol yn cael eu rhoi ar waith. Mae’r lefel hon o ansicrwydd yn ei gwneud yn anodd iawn rhagweld pryd y bydd modd ailddechrau gweithgareddau i godi refeniw, ar ba lefel ac am ba hyd. Mae’n debygol y bydd y cyfyngiadau sylweddol ar griwiau o bobl yn dod ynghyd yn golygu na fydd llawer o alw am ddigwyddiadau arbennig am gryn amser eto, a bydd hyn yn ergyd ddifrifol i ffynhonnell incwm y mae’r sefydliadau hyn wedi’i meithrin yn llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Mae’n bosib hefyd y bydd costau ychwanegol wrth gludo gwrthrychau neu waith celf i/o wledydd tramor ar gyfer arddangosfeydd lle gall fod cyfyngiadau iechyd a diogelwch ychwanegol mewn grym.

 

Mae’r sefydliadau hyn yn rhan ganolog o’r diwydiant treftadaeth yng Nghymru ac maent yn denu llawer o ymwelwyr, felly mae eu hiechyd ariannol yn rhan annatod o adferiad y sector ar ôl Covid. Mae llesiant staff o safbwynt y profiad i ymwelwyr yn amlwg yn bwysig, ac ar ôl degawd o gyni a thanariannu, credwn y byddai’n drychineb pe baent yn dioddef eto fyth o doriadau a thanariannu cyllidebol. Byddai’r ergyd i’w llesiant (ac felly’r ergyd i brofiad ymwelwyr) yn ddifrifol.

 

Mae’n broses gymhleth i asesu cyfraniad y sefydliadau hyn mewn termau economaidd. Fodd bynnag, roedd Cynllun Gweithredol 2018/19 yr Amgueddfa yn cyfrifo bod pob £1 a fuddsoddwyd ynddi gan Lywodraeth Cymru yn cynhyrchu £4 o wariant ychwanegol yng Nghymru, gan gyfrannu £83m o Werth Ychwanegol Gros (GVA) i economi Cymru – y gwerth ychwanegol gros mwyaf a gyfrannir gan unrhyw sefydliad diwylliannol sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus yng Nghymru.[1]Mae hyn yn profi bod cau drysau’r Amgueddfa wedi cael effaith sylweddol ar economi Cymru.

 

Ond yn anad dim, mae’n amlwg bod gwerth diwylliannol yr Amgueddfa a’r Llyfrgell Genedlaethol i’r wlad yn amhrisiadwy. Y sefydliadau hyn yw hanfod hanes diwylliannol Cymru ac mae’n rhaid iddynt fod ar gael o hyd i bawb.

 

Mae Prospect Cymru yn credu’n gryf bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru nawr gymryd diwylliant a threftadaeth o ddifrif a gwneud y buddsoddiad angenrheidiol yn yr Amgueddfa a’r Llyfrgell Genedlaethol; i ddiogelu’r trysorau cenedlaethol sydd ganddynt, a gwneud yn siŵr bod y sector yn adfer mewn ffordd gynaliadwy yn dilyn Covid, gan sicrhau bod pob rhan o gymdeithas yn cael eu cynnwys a bod pawb yng Nghymru yn dal i allu cael mynediad at eu hanes diwylliannol.

 

Mae Bectu, ynghyd â’n chwaer undebau, yn bryderus iawn y bydd yn cymryd cryn amser i rannau helaeth o’r sector ailgodi, gyda Sgrin yn ailddechrau’n raddol ond bydd angen meddylfryd mwy hirdymor ar gyfer y Theatr/Celfyddydau a Digwyddiadau Byw. Bydd yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yn dalcen caled oherwydd er gwaethaf y cyllid sydd ar gael, mae’n debygol y bydd diswyddiadau yn anorfod yn y diwydiant drwyddi draw. 

 

Pa wersi y gellir eu dysgu o sut mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, cyrff hyd braich a’r sector wedi delio â Covid-19?

 

Roedd Prospect wedi croesawu pecyn achub diwylliannol Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf. Fodd bynnag, rydym yn amau yn gryf a fydd y gyfran o’r £59m a ddyrennir i’r sector diwylliannol yng Nghymru yn cyfrannu’n ddigonol at liniaru’r difrod a achoswyd gan Covid, heb sôn am fynd i’r afael â dros ddegawd o gwtogi cyllid cymorth grant uniongyrchol i’r Amgueddfa a’r Llyfrgell Genedlaethol. Fel y soniwyd uchod, mae’r swm a gollwyd o’r incwm a gynhyrchant eu hunain ar ben unrhyw ostyngiad pellach mewn cymorth grant yn amlygu methiannau’r model ariannu presennol. Sut y gall y sefydliadau hyn ddarparu profiadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr heb fawr ddim buddsoddiad?

 

Mae Bectu yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i’r sector drwy’r Gronfa Adfer Diwylliannol. Rydym yn arbennig o falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu’n frwd â’r undebau ac eraill ac wedi gwrando arnynt, gan ddarparu £7m i gefnogi gweithwyr llawrydd a hwythau i raddau helaeth wedi cael eu heithrio’n flaenorol o gymorth ariannol fel JRS a SEISS Llywodraeth y DU a Chronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru. Mae’r diffyg cymorth ariannol yn ystod cyfnod eithriadol o anodd i lawer o weithwyr wedi creu caledi sylweddol i’n haelodau llawrydd yn y sector ac rydym yn bryderus iawn y bydd llawer yn gadael y diwydiant, yn enwedig y rheini o grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n deg a’r rheini sy’n wynebu anfantais economaidd gymdeithasol.

 

Sut gallai’r sector esblygu ar ôl Covid-19, a sut gall Llywodraeth Cymru gefnogi arloesedd o’r fath i ddelio â heriau’r dyfodol?

 

Pa mor bwysig yw hanes diwylliannol Cymru i Lywodraeth Cymru? Nid yw’r sector wedi cael ei ariannu’n ddigonol dros y degawd diwethaf ac mae hynny wedi cael effaith ddifrifol ar y sefydliadau hynny a’u staff. Er ein bod yn cydnabod bod llawer o’r cyfyngiadau ariannol hyn wedi cael eu gwthio ar Lywodraeth Cymru o du San Steffan, rydym yn dadlau bod angen gwyrdroi ac adfer y difrod hwn ar ôl Covid.

 

Nawr, mae angen ystyried codiad sylweddol mewn cymorth grant fel nad yw’r sefydliadau hyn mor ddibynnol ar incwm masnachol, ynghyd â chytundebau cyllido dros sawl blwyddyn i ganiatáu i’r sefydliadau hyn gynllunio’n briodol ar gyfer yr hirdymor.

 

Byddai setliad cyllido digonol hefyd yn galluogi’r sefydliadau i fuddsoddi yn eu staff i’r un graddau â staff Llywodraeth Cymru gan symud tuag at y nod o gael un sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym hefyd yn dadlau o blaid dyrannu adnoddau digonol i’r adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i'w galluogi i gryfhau’r rôl y gallai treftadaeth ei chwarae yn adferiad Cymru ar ôl Covid.

 

Yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, mae Prospect / Bectu yn gofyn i Lywodraeth Cymru gytuno ar set o bolisïau clir i’w cynnwys mewn ‘Cytundeb Diwylliannol’ newydd gyda’r holl sefydliadau dan sylw a’r undebau llafur i roi diwylliant a threftadaeth wrth galon yr adferiad ar ôl Covid, gan ymrwymo i ariannu’r sector yn ddigonol i sicrhau ei ddyfodol er budd holl bobl Cymru.

 

 

Daniel Maney - Swyddog Negodi Prospect Cymru – daniel.maney@prospect.org.uk

David Donovan – Swyddog Negodi BECTU – ddonovan@bectu.org.uk

Siân Gale – Rheolwr Sgiliau a Datblygu BECTU – sian@bectu.org.uk

Carwyn Donovan – Swyddog Gweithredol Negodi BECTU - cdonovan@bectu.org.uk



[1] https://museum.Wales/media/46522/Operational-Plan-2018-19-FINAL.pdf